Stori'r Ganges yw stori'r India fodern - yn ferw o fywyd, yn ysbrydol iawn, yn anhrefnus, yn frwnt ac yn syfrdanol o hardd. Nid oes gan yr un corff arall o ddŵr gymaint o bwysigrwydd economaidd a chrefyddol i gynifer o bobl â'r afon aruthrol hon, y Fam Ganges. Mae un o bob deg o bobl y Ddaear hon yn byw yn nalgylch yr afon ac mae un o bob pump yn ei haddoli fel Mam Dduwies. Mae ei dyfroedd sanctaidd yn hanfodol i gynnal dros 450 o bobl gan eu darparu gyda bwyd a diwydiant.

Ond wrth i'r cynnydd yn economi'r India barhau ac wrth i'r isgyfandir hwn gael ei diwydiannu ar raddfa syfrdanol, mae 'Ma Ganga' yn wynebu bygythiad na welodd mo'i debyg o'r blaen. A hithau'n afon sy'n cael ei mawrygu a'i haddoli fel Duwies, ystyrir ei bod hi'n anfarwol - yn gallu gwrthsefyll yr holl gamdriniaeth mae'n ei dioddef. Mae gwastraff diwydiannol a dynol yn llifo i'r afon, mae argaeau'n cael eu codi ar draws ei dyfroedd ac mae ei chwrs yn cael ei newid ar gyfer amaethyddiaeth ac i greu ynni. Hefyd mae'r newid yn yr hinsawdd yn lleihau'r rhewlif sy'n ffynhonnell iddi hi a'i delta. Mae hyn oll yn bygwth tagu a gwanhau'r Cludwr Bywyd nerthol hwn. A fydd yr afon fwyaf ei bri yn yr India yn ddiarwybod yn ysglyfaeth i wyrth economaidd newydd ei gwlad?

Cynhyrchydd y Gyfres/Cyfarwyddwr: Vicky Hinners
Uwch Gynhyrchydd: Steve Robinson