Mae'r awdur a'r pysgotwr, Will Millard, yn teithio ar hyd afon Gwy o'i tharddle at y môr, gan adrodd ei hanes a'r modd wedi siapio ein bywydau ni.

Afon Gwy yw hoff afon pobl Prydain. Mae hi'n enwog am ei harddwch a'i bywyd gwyllt. Dyma hefyd gorff o ddŵr sydd gyda'r pwysicaf yn Ewrop, yn hafan i rai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig. Ond y tu ôl i'r golygfeydd cerdyn post a'r bryniau hardd, mae stori am orffennol diwydiannol aeth heibio, am ddatblygiad amaethyddiaeth, am berthynas anesmwyth rhwng y Cymry a'r Saeson ac am sut ddechreuodd cariad pobl Prydain at gefn gwlad a chychwyn y diwydiant twristiaeth.

Er ei bod hi'n un o'r afonydd sy'n derbyn y lefel uchaf o warchodaeth yn Ewrop, mae afon Gwy yn dal i wynebu bygythiadau ein hoes ni heddiw. Er mai ffermio sydd wedi llunio'r dirwedd cefn gwlad sydd wedi cydio yn ein dychymyg ni, mae ffermio hefyd yn fygythiad i'w dyfodol. Wrth i amaeth droi oddi wrth ffermydd teuluol at gorfforaethau byd eang, sut fydd afon Gwy yn ymdopi â'r pwysau newydd sydd arni? Mae Will yn cerdded, nofio a phadlo ar hyd yr afon Gwy, gan archwilio'r afon, y dirwedd mae hi'n llifo drwyddi, a'r cymunedau sy'n byw ar hyd ei glannau.

Cynhyrchydd y Gyfres/Cyfarwyddwr: Luke Pavey
Uwch Gynhyrchydd: Steve Robinson