Gareth Wyn Jones yn archwilio argyfwng ffermydd llaeth Cymru.

Gareth Wyn Jones, y ffermwr mynydd, sy'n archwilio argyfwng diwydiant llaeth Cymru.

Gyda llaeth bellach yn un o'r nwyddau hynny sy'n cael ei werthu'n fyd-eang, ac archfarchnadoedd yn gwerthu llaeth ar golled er mwyn denu cwsmeriaid, mae llawer o ffermwyr llaeth Cymru mewn perygl o fynd i'r wal. Mae un litr o laeth bellach yn costio llai na litr o ddŵr.

Mae ffermwyr ar hyd a lled Cymru'n cael eu gorfodi i gynhyrchu llaeth am lai na'r costau cynhyrchu. Golyga hyn eu bod nhw'n colli arian ar bob litr o laeth maen nhw'n ei gynhyrchu. Ffermydd llaeth yw asgwrn cefn yr economi wledig mewn nifer o ardaloedd o Gymru, ac mae'r ffermydd hyn yn hanfodol er mwyn cynnal ffordd o fyw a thirwedd sydd mor agos at ein calonnau.

Yn y gyfres hon, mae Gareth yn ceisio deall y pwysau sydd ar lawer o ffermydd teuluol wrth iddyn nhw frwydro i ddal ati - gan chwilio am atebion i helpu ffermwyr sy'n wynebu trafferthion.

Cynhyrchydd y Gyfres/Cyfarwyddwr: Luke Pavey
Uwch Gynhyrchydd: Steve Robinson