Straeon i'r werin

Mae Folk Films yn gwmni annibynnol newydd sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, De Cymru. Rydyn ni'n griw o wneuthurwyr ffilm sydd wedi ymroi i gynhyrchu rhaglenni dogfen gwych am gymhlethdodau ein byd, ac sy'n gyson newid.

Fe'n ffurfiwyd ni yn 2016 gan Steve Robinson, ac ers hynny mae Folk Films yn gyflym wedi sefydlu ei hun fel un o'r cynhyrchwyr rhaglenni ffeithiol gorau y tu allan i Lundain. Rydyn ni'n cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys a gwaith ffeithiol gyda'r talent gorau sydd ar gael. Fel tîm mae gennym brofiad eang o weithio ar raglenni taith amgylcheddol, gyda rhai o enwau pwysicaf y byd teledu ym Mhrydain. Rydyn ni hefyd yn frwd iawn dros adrodd straeon am y Gymru gyfoes.

Ein nod ni yw creu rhaglenni teledu grymus, deallus sy'n mynnu eich sylw.

Straeon i'r werin.

Ein Tîm

Cwrdd â'r bobl tu ôl i Folk Films

Steve Robinson

Rheolwr Gyfarwyddwr/Uwch Gynhyrchydd
--
Mae Steve Robinson yn gynhyrchydd ffilmiau dogfen sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac yn uwch gynhyrchydd gyda thros 25 mlynedd o brofiad yn y maes teledu ffeithiol. Mae ei restr clod yn cynnwys ei waith fel cynhyrchydd cyfres a chyfarwyddwr ar Amazon with Bruce Parry (BBC Two), a enillodd wobr BAFTA, Mekong with Sue Perkins (BBC2) ac Eiger: Wall of Death (BBC Four).

Dechreuodd ei yrfa yn newyddiadurwr ar bapur newydd yng Ngorllewin Cymru, cyn ymuno â BBC Cymru i gynhyrchu rhaglenni dogfen antur gan weithio fel Cynhyrchydd y Gyfres ar Extreme Lives (BBC One), yn portreadu rhai o brif athletwyr awyr agored y byd. Roedd 'The Man Who Jumped to Earth' yn dilyn hanes Eric Jones, 64 oed, wrth iddo neidio o ben Angel Falls, rhaglen a enillodd wobr RTS am y Rhaglen Ddogfen Chwaraeon Orau. Enwebwyd 'Ellen MacArthur: Sailing Through Heaven and Hell' ar gyfer gwobr BAFTA. Aeth Steve ymlaen wedyn i greu a chynhyrchu tair cyfres o 'Tribe with Bruce Parry' (a enwebwyd ddwywaith am BAFTA).

Gadawodd y BBC yn 2005 i sefydlu cwmni cynhyrchu Indus Films, gan gynhyrchu cyfresi fel Everest ER (BBC One), Expedition Alaska (Discovery Channel), Arctic with Bruce Parry ac Inside London's Markets (BBC Two). Ymhlith ei brosiectau mwyaf diweddar yn Indus roedd Hunters of the South Seas with Will Millard, yn edrych ar fywydau pobl yn y Triongl Cwrel, (BBC Two) a Kolkata with Sue Perkins (BBC One).

Gadawodd Indus yn 2015, pan berchenogwyd y cwmni, a mynd ymlaen i greu cwmni annibynnol newydd, Folk Films, yn 2016.

Val Croft

Gweithredwr Cynhyrchu
--
Mae Val Croft yn Weithredwr Cynhyrchu sydd wedi bod gyda Folk Films o'r dechrau cyntaf. Bu'n gweithio cyn hynny i Indus Films yn goruchwylio eu cynyrchiadau gan gynnwys nifer o gyfresi ar gyfer Channel 4 ac hefyd rhaglenni ar gyfer y BBC, Kolkata with Sue Perkins a Nomads with Kate Humble yn ogystal â chyfresi ar gyfer BBC Cymru.

Cyn hynny roedd Val yn Bennaeth Cynhyrchu i Time Team Channel 4. Gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn rheoli cynyrchiadau, mae Val wedi gweithio ar ystod eang iawn o raglenni teledu o'r celfyddydau, rhaglenni hanes a ffeithiol i fyd natur, gan eu cyflenwi ar gyfer pob darlledwr yn y DU. Mae Val yn gofalu am holl gynyrchiadau Folk Films.

Luke Pavey

Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr
--
Mae Luke yn Gynhyrchydd Cyfres ac yn Gyfarwyddwr sy'n saethu ei ffilmiau ei hunan, sydd wedi ei enwebu am wobr BAFTA Cymru. Mae wedi bod gyda Folk Films ers i'r cwmni gael ei ffurfio. Mae Luke wedi gweithio ar amrywiaeth eang o raglenni ffeithiol gan gynnwys ffilmiau arsylwadol, dogfennau antur a thaith a chyfresi ffeithiol arbenigol.

I'w enw hefyd mae nifer o ffilmiau unigol ar gyfer BBC Three; y ddogfen arsylwadol ar ffurf hir Bad Boy Boxer a'r ffilm fer Locked In My Body. Mae hefyd wedi gweithio ar gyfresi ffeithiol poblogaidd fel Countryfile (BBC One) a Coast (BBC Two).

Cyn dod i weithio i Folk Films bu Luke yn saethu, cynhyrchu ac yn cyfarwyddo nifer o gyfresi i Indus Films gan gynnwys The Hill Farm (BBC Two, Cymru), The Farmer & The Food Chain (BBC 1 Cymru / BBC Two) a The Taff: The River That Made Wales (BBC 1 Cymru/ BBC Four).

Yn ystod ei gyfnod gyda Folk Films mae Luke wedi cynhyrchu'r gyfres Milk Man gyda Gareth Wyn Jones (BBC 1 Cymru), mae wedi saethu rhan agoriadol The Ganges with Sue Perkins (BBC 1) a ffilmio Hidden Cardiff with Will Millard (BBC 1 Cymru).

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar nifer o gynyrchiadau cyfredol y cwmni.