Yr anturiaethwr Will Millard sy'n ymchwilio i hanes cudd Caerdydd yn y rhaglen hon sy'n archwilio prifddinas Cymru. O rwydweithiau cudd o dwneli i fynceri niwclear, o gamlesi coll i adeiladau aeth yn angof, mae'r rhaglen ddogfen hon yn rhoi golwg i chi ar Gaerdydd na welsoch erioed o'r blaen. 

Pa mor gyfarwydd ydych chi mewn gwirionedd â'n prifddinas? Oherwydd o dan Gaerdydd, ac o'i chwmpas, a thrwyddi, mae drysfa o dwneli, adeiladau a strwythurau sydd wedi eu cuddio o'r golwg ond sy'n adrodd hanesion anhygoel. Yn y rhaglen ddogfen hon ar gyfer BBC Cymru, mae Will Millard, anturiaethwr, awdur ac un o drigolion Caerdydd, yn datgelu rhannau o'r ddinas na welsoch chi erioed o'r blaen. Yn ystod ei archwiliad mae Will yn datgelu hanes cudd Caerdydd gan roi golwg newydd a diddorol i'r gwyliwr ar ddinas y mae llawer ohonom yn credu ein bod yn ei hadnabod yn dda. Mae'r rhaglen yn rhannol yn archwiliad o ddinas, ac yn rhannol hefyd yn ymgais i ddatrys dirgelwch ac yn wers hanes wrth i Will ddangos i chi rannau o Gaerdydd sydd wedi hen fynd yn angof.

Cyd-gynhyrchiad with Lazerbeam Productions
Cynhyrchydd y Gyfres/Cyfarwyddwr: James Hale
Uwch Gynhyrchydd: Steve Robinson